Mae hi’n ddiwrnod o ddathlu yn nhref y Fflint heddiw wrth i’r Urdd gynnal Gŵyl Gyhoeddi i groesawu’r Eisteddfod yno’r flwyddyn nesaf.

Fe fydd Eisteddfod yr Urdd 2016 yn cael ei chynnal ar dir Ysgol Uwchradd y Fflint yn y dref rhwng 30 Mai a 4 Mehefin.

Mae’r gweithgareddau heddiw yn cynnwys gweithdy creu baneri i blant yn llyfrgell y dref, gorymdaith drwy’r dref, a sioe hanesyddol am Owain Glyndŵr i blant yng Nghastell y Fflint y prynhawn yma.

Yn dilyn gweithgareddau’r dydd fe fydd Dawns y Cyhoeddi gyda’r grŵp Band6 yn Neuadd Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug am 7.30 heno.