Mae rhai o’r masnachwyr ar faes yr Eisteddfod wedi cyfaddef wrth golwg360 fod eu busnesau wedi cael eu heffeithio rhywfaint gan drafferthion technolegol.

Yn dilyn anawsterau diwifr ar ddechrau’r wythnos a phroblemau gyda’r peiriannau tynnu arian mae rhai gwerthwyr wedi dweud bod busnes wedi “dioddef”.

O ganlyniad i broblemau diwifr ar ddydd Sadwrn doedd rhai peiriannau chip and pin ddim yn gweithio, ac yn ystod rhai cyfnodau o’r wythnos hon doedd dim modd tynnu arian allan o’r peiriannau dosbarthu arian.

Yn ôl yr Eisteddfod mae’r trafferthion hynny bellach wedi cael eu datrys, ac roedd dealltwriaeth ac amynedd ymysg y rhan fwyaf o’r stondinwyr.

Allan o reolaeth yr Eisteddfod

Dros y dyddiau diwethaf mae nam wedi bod ar y peiriannau tynnu arian gan olygu bod Eisteddfodwyr ddim wedi gallu cael at arian parod.

Dywedodd yr Eisteddfod wrth golwg360 mai problem fyd-eang  â’r cwmni oedd yn rhedeg y system oedd ar fai, a bod trefniadau dros dro wedi cael eu gwneud.

Yn ôl stondinau Bwtwm a Dazzle Cymru roedd y broblem wedi effeithio ar eu gwerthiant.

“Doedd 12 cwsmer methu â phrynu rhywbeth ar y stondin,” meddai Dazzle Cymru.

‘Blaenoriaethu i stondinwyr’

Ar ddechrau’r wythnos bu’n rhaid i stondinau dderbyn cymorth gan yr Eisteddfod yn sgîl problemau diwifr ac roedd profiadau’r stondinwyr yn amrywio.

Roedd Cyngor Llyfrau Cymru yn canmol effeithiolrwydd yr Eisteddfod wrth ymateb i’r sefyllfa.

Ond doedd Lowri Roberts o siop Cwlwm a Draenog ddim mor fodlon gan ddweud bod “busnes wedi dioddef” ac y byddan nhw yn “meddwl ddwywaith” cyn prynu’r ddyfais ddiwifr drwy’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

Roedd yr anawsterau, yn ôl Angharad o TJ Davies a’i Fab, “wedi amharu ond heb suro’r busnes”.

Roedd rhai stondinwyr wedi talu £125 i dderbyn teclyn ar gyfer hwyluso taliadau diwifr.

Dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi mynd ati’n syth i ddatrys y broblem ddiwifr ddydd Sadwrn gan “flaenoriaethu stondinwyr”.