Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau eu bod yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i ddenu’r Brifwyl i’r sir yn 2020.

Eisoes yr wythnos hon mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, wedi mynnu wrth golwg360 y dylai’r Eisteddfod ddychwelyd i Geredigion yn 2020 am y tro cyntaf ers 1992.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion, fod trafodaethau wedi dechrau a’i bod erbyn hyn mewn sefyllfa i fynd ati i ddewis lleoliad: “Yn ystod trafodaethau yn 2013, mynegodd Cyngor Sir Ceredigion ddiddordeb yng nghynnal y Brifwyl yn 2020 i Brif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts. Y cam nesaf i’r Cyngor yw adnabod lleoliad addas o tua 140 erw o dir gwastad i gynnal y digwyddiad.”

Y tro diwethaf i’r Eisteddfod fod yng Ngheredigion oedd yn 1992, pan oedd yn nhref Aberystwyth.

Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, yn siarad â golwg360 yr wythnos hon:

Hwb economaidd

Mae’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn yn credu fod yr Eisteddfod yn hwb i’r economi yn lleol.

“Mae’r Eisteddfod yn un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru,” meddai, “ac yn flynyddol yn denu degau ar filoedd o bob cwr o’r genedl. Yn ei dro, mae hyn yn achosi hwb economaidd yn lleol i’r ardal sy’n cynnal y digwyddiad.”

Ychwanegodd fod gan Geredigion gysylltiadau clos gyda’r brifwyl yn hanesyddol.

“Fel y sir a gynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf sy’n hysbys yn 1176, mae Ceredigion yn falch o’i chysylltiadau cryf â’r Brifwyl. Wedi 23 mlynedd, mae’n hen bryd i’r Eisteddfod ddychwelyd gartref i Geredigion.”