Welsh Whisperer yn mwynhau'r papur bro lleol
Os fyddwch chi yn Eisteddfod Meifod eleni un peth fyddwch chi’n sicr ddim yn brin ohono fydd cyfle i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.

Drwy gydol yr wythnos fe fyddwn ni hefyd yn dod a sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.

Rydyn ni eisoes wedi bod yn sgwrsio â band Y Cledrau a Bromas, a’r diweddaraf i ymuno â ni am glonc ar y maes a thiwn fach yw Andrew Walton, neu’r enwog Welsh Whisperer.

Llewelyn Hopwood sy’n sgwrsio â’r canwr gwerin ffraeth gan holi am y gigio, a’r ddau beth dyw e byth yn mynd hebddyn nhw wrth deithio.

Ac er gwaethaf yr holl ymwelwyr ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon, mae angen gofyn un cwestiwn pwysig – oes yna unrhyw un wir yn dod o Bowys?!

Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân gyda Welsh Whisperer yma:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Welsh Whisperer a chael rhagor o wybodaeth am y band ar ei dudalennau Soundcloud, Facebook a Twitter.