Y pamffled
Mae Gwasg y Lolfa wedi rhoi’r gorau i ddosbarthu copïau o bamffled annibynnol ar ôl ymweliad gan swyddog o Brifysgol Aberystwyth.

Mae cyhoeddwr y pamffled, yr ymgyrchydd iaith, Emyr Llywelyn, hefyd wedi tynnu’r daflen yn ôl ar ôl cydnabod bod camgymeriad sylfaenol ynddi.

Roedd y  Brifysgol wedi gwadu honiadau yn y pamffled,  fod cysylltiad rhwng dau ddyn o Frasil a champws newydd y mae Prifysgol Aberystwyth yn ei sefydlu ym Mauritius.

Dau gwmni gwahanol

Mae Golwg yn deall bod y dryswch wedi codi am fod dau gwmni wedi eu cofrestru yn enw Aberystwyth Limited, is-gwmni i’r Brifysgol ym Mauritius ac un arall, oedd yn enw’r ddau o Frasil, yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd.

Mewn datganiad, fe ddywedodd y Brifysgol eu bod yn croesawu penderfyniad Emyr Llywelyn i roi’r gorau i ddosbarthu’r ddogfen.

Roedden nhw hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth ganddo “ei bod yn cynnwys nifer fawr o ffeithiau sy’n gwbl anghywir ac a allai achosi niwed difrifol i’r Brifysgol, ei haelodau a’i henw da”.

‘Dim sylw pellach’

Doedd gan Emyr Llywelyn ddim sylw pellach am y pamffled ond fe ddywedodd wrth Golwg360 fod cwestiwn o hyd pam fod Prifysgol o Gymru’n sefydlu cwmni mewn hafan dreth fel Mauritius.

Roedd hefyd yn dweud fod peryg o gael dau gwmni yn gweithredu dan yr un enw.

Roedd y pamffled ‘Problemau Prifysgol Aberystwyth’ hefyd wedi codi cwestiynau am ddoethineb datblygiad llety newydd yn y Brifysgol o dan gynllun ariannu preifat ac am fwriad i ailddatblygu’r Hen Goleg yn Aberystwyth yn ganolfan ddiwylliant ac adnoddau hamdden.

Brasiliad

Cafodd y pamffled ei ddosbarthu i  ddechrau o gwmpas maes yr Eisteddfod heddiw yn galw ar Lywydd y Brifysgol i ymddiswyddo ac am roi’r gorau i ddatblygiad Mauritius.

Yn y cyhoeddiad roedd honiad mai dau ddyn o Frasil, Jose Maria Amral-Gurgel a Carlos Eduardo Schahin, oedd yr unig gyfarwyddwyr ar gwmni Aberystwyth Limited ac mai hwnnw sy’n rheoli campws Mauritius. Yr awgrym oedd fod peryglon mewn trefniant o’r fath.

Ond mae wedi dod yn glir bellach mai cwmni cwbl wahanol yw hwnnw ac nad oes dim cysylltiad o gwbl rhwng y ddau ddyn a’r cwmni y mae’r Brifysgol wedi ei sefydlu ym Mauritius.

‘Dim cysylltiad’ meddai’r Brifysgol

Roedd Ysgrifennydd y Brifysgol, Geraint Pugh, wedi dweud wrth Golwg360 bod gan Aberystwyth Limited – is-gwmni’r Brifysgol – bum cyfarwyddwr, ac nad oes gan y ddau o Frasil ddim i’w wneud â’r cynllun.

Mae gwefan Prifysgol Aberystwyth yn cadarnhau mai enw’r cwmni a gafodd ei sefydlu i redeg eu campws ym Mauritius yw Aberystwyth Limited a bod hwnnw wedi ei greu yn 2015.

Roedd yr Aberystwyth Limited y mae Emyr Llywelyn yn cyfeirio ato wedi ei sefydlu yn 2003 ond nad oedd yn weithredol.

Yn ôl Ysgrifennydd y Brifysgol, mae gan Aberystwyth Ltd bum cyfarwyddwr – John Grattan (Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros faterion rhyngwladol), Daniel Benham (Cyfarwyddwr Cyllid y Brifysgol), Ian MacEachern (Cadeirydd a Aelod Cyngor y Brifysgol), a dau aelod o Boston Campus Limited, cwmni o Mauritius sy’n bartner yn y fenter ac yn gyfranddaliwr lleiafrifol yn y fenter.

Dywedodd nad oes cysylltiad rhwng y brifysgol â’r ddau ddyn o Frasil, ac nad oes unrhyw gwmni arall yn ymwneud â champws y brifysgol ym Mauritius.