Roedd 15,023 o bobol wedi ymweld â Maes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ar ddydd Sadwrn cynta’r Brifwyl.

Mae’r ffigwr ychydig yn is na’r diwrnod cyfatebol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr y llynedd, pan oedd 15,615 yn bresennol.

Diwrnod y bandiau pres, corau cymysg a dawns disgo, hip hop neu stryd oedd hi ddoe.

Canlyniadau dydd Sadwrn:

Bandiau Pres Dosbarth 4:

  1. Seindorf Arian yr Oakeley
  2. Band Ynyshir
  3. Band Porthaethwy

 Bandiau Pres Dosbarth 3:

  1. Band Arian Tref Rhydaman
  2. Band Ynyshir
  3. Band Awyrlu Sain Tathan

 Côr Cymysg dros 45 mewn nifer:

  1. Llanddarog a’r Cylch
  2. Y Gleision
  3. Godre’r Garth

 Bandiau Pres Dosbarth 2:

  1. Band Ebbw Valley
  2. Seindorf Arian Deiniolen
  3. Band Pres Melingruffydd (Dinas Caerdydd)

Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai dan 12 oed:

  1. Freya Murray, Rhyl, Sir Ddinbych
  2. Jodie Garlick, Llannerch-y-Medd, Ynys Môn
  3. Molly Hughes, Aberystwyth, Ceredigion 

Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Bâr:

  1. Lowri a Jodie, Llanerch-y-Medd, Ynys Môn
  2. Charlie ac Oliver, Ponciau, Wrecsam
  3. Catrin a Leonie, Ponciau Wrecsam

 Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd:

  1. Charlie Lyndsay, Ponciau Wrecsam
  2. Rosanna Talco, Aberystwyth, Ceredigion
  3. Oliver Swinger, Ponciau, Wrecsam