Y Lle Hanes ar faes yr Eisteddfod
Eleni am y tro cyntaf erioed fe fydd ymwelwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol yn medru manteisio ar y cyfle i ymweld â stondin Lle Hanes ar y maes.

Mae’r datblygiad newydd eleni yn gyfle i gymdeithasau hanes lleol yn ardal Maldwyn a’r Gororau ddod at ei gilydd a chyflwyno pobl o’r ardal a thu hwnt i fröydd a phlwyfi’r Brifwyl eleni.

Cafodd y prosiect ei chyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae dros ugain o gymdeithasau hanes gwahanol yn rhan o’r arddangosfa eleni.

Y gobaith yw gweld stondin o’r fath yn sefydlu’i hun fel rhan o arlwy’r Eisteddfod dros y blynyddoedd i ddod.

‘Teithio drwyddo, byth yn stopio’

Yn ôl un o gydlynwyr yr arddangosfa eleni, Marian Rees, y gobaith yw cael pobl sydd efallai yn tueddu i fod yn lled gyfarwydd â’r sir i gymryd mwy o sylw o’i phwysigrwydd hanesyddol.

“Mae Sir Drefaldwyn yn un o’r siroedd mae pobl yn mynd drwyddi a ddim yn cymryd llawer o sylw ohoni, oherwydd maen nhw ar y ffordd i weld rhyw gastell neu’i gilydd,” meddai Marian Rees.

“Ond mae ‘na lawer iawn, iawn o hanes yn Sir Drefaldwyn, a ‘da ni’n gobeithio y bydd o’n dipyn o agoriad llygad i ymwelwyr yn ogystal â phobl leol.”