Mae’r rhestr fer ar gyfer Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel wedi cael ei chyhoeddi, ac mae’n cynnwys enwau chwech o gystadleuwyr mwyaf addawol yr Eisteddfod eleni.

Cafodd y rhestr fer ei llunio gan bump o feirniaid – Stifyn Parri, Gwawr Owen, Gwenan Gibbard, Sian Teifi a Catrin Lewis-Defis.

Cafodd y chwech eu dewis o blith cystadleuwyr gorau’r Unawd Alaw Werin 19-25 oed, yr Unawd Cerdd Dant 19-25 oed, yr Unawd 19-25 oed, yr Unawd Offerynnol 19-25 oed, y Llefaru Unigol 19-25 oed, y Cyflwyniad Theatrig 19-25 oed, yr Unawd allan o Sioe Gerdd 19-25 oed, y Ddawns Unigol i Fechgyn 14-25 oed a’r Ddawns Unigol i Ferched 14-25 oed.

Y chwech sydd wedi’u dewis eleni yw Steffan Rhys Hughes (Aelwyd Menlli, Dinbych), Rhodri Prys Jones (Aelwyd Penllys, Maldwyn), Sarah-Louise Jones (Aelod Unigol o Gylch Rhondda, Cymoedd Morgannwg), Meinir Wyn Roberts (Aelod Unigol o Gylch Arfon, Eryri), Alys Mererid Roberts (Aelwyd Llundain, Tu Allan i Gymru) a Gwen Elin (Aelwyd yr Ynys, Môn).

Nid enillwyr y cystadlaethau o reidrwydd oedd wedi’u dewis eleni.

Bydd enillydd yr Ysgoloriaeth eleni’n derbyn £4,000 i’w ddefnyddio i feithrin eu doniau ar gyfer y dyfodol.

Cafodd yr Ysgoloriaeth ei sefydlu yn 1999.

Wrth gyhoeddi’r rhestr fer, dywedodd y panel: “Rydym wedi mwynhau’r profiad o fod ar banel Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel ac mi oedd yn benderfyniad anodd.

“Ond mi oedd y chwech yma yn disgleirio ac yn llawn haeddu’r cyfle i gystadlu am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2015.”