Yn ogystal â’r sŵn canu a’r llefaru arferol sydd i’w glywed ar Faes yr Eisteddfod, fe fydd sŵn padell ffrio a snip siswrn yn fwy amlwg heddiw.

Mae’r Urdd wedi cyflwyno cystadleuaeth newydd sydd fwy at ddant pobol ifanc sy’n dilyn cyrsiau galwedigaethol fel coginio, harddwch a gofal plant.

Ac yn sgîl poblogrwydd y cystadlaethau hyn, fe gyhoeddodd trefnwyr yr Urdd heddiw eu bod am gyflwyno rowndiau rhanbarthol yn ogystal â chystadleuaeth newydd Celf Ewinedd y flwyddyn nesa’.

CogUrdd

Cafodd y cystadlaethau newydd eu hychwanegu at restr yr Eisteddfod yn dilyn argymhellion gan weithgor fu’n ymgynghori ar waith yr Urdd.

Mewn cydweithrediad â Cholegau Cymru, eleni am y tro cyntaf mae pabell goginio bwrpasol ar y Maes ar gyfer cystadleuaeth CogUrdd, sy’n cael ei chynnal ar gyfer oedrannau gwahanol bob diwrnod.

Natalia Matlanska o Goleg Ceredigion oedd enillydd y gystadleuaeth goginio ar gyfer yr oedran 19-25 heddiw.

Yn y gystadleuaeth goginio dan 19 ddoe daeth Deejay Harrison o Goleg Ceredigion i’r brig.

Kayleigh Layton o Goleg Ceredigion gafodd gyntaf yn y gystadleuaeth gwallt a harddwch heddiw.

Ar yr un safle, fe fydd 19 o gystadleuwyr y gystadleuaeth trin gwallt a harddwch ar y maes gyda’u modelau tan bump y prynhawn.