Efa Gruffudd
Mae’r Urdd wedi llunio Memorandwm Cydweithio newydd gyda Mentrau Iaith Cymru – sy’n amlinellu bwriad y ddwy ochr i barhau i “gydweithio’n agos”.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones y bydd yr addewid newydd yn sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n gweithio i hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn medru datblygu gweithgareddau eraill ar gyfer y dyfodol.

Enghraifft o’r cydweithio presennol yw Eisteddfod yr Urdd, meddai:

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn enghraifft wych o lwyddiant cydweithio rhwng nifer o bartneriaid i sicrhau gŵyl lwyddiannus.

“Rydym yn ffyddiog y bydd ffurfioli’r berthynas rhyngom ymhellach yn ein cynorthwyo i sicrhau parhad y cydweithio ar lefel strategol, yn enwedig wrth i ni ddatblygu ein gweithgareddau i’r dyfodol.”

Cyfleoedd lleol

Ychwanegodd Emily Cole, Cydlynydd Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru:

“Ar lefel leol yma yng Nghaerffili mae’r Fenter, yr Urdd a’r Cyngor Sir wedi dod at ei gilydd i gyflogi Swyddog Ieuenctid ar y cyd sydd wedi arwain at ddatblygu nifer o brosiectau a gweithgareddau newydd, gan gynnwys clwb ieuenctid llwyddiannus cyfrwng Cymraeg,  efallai na fyddai wedi bodoli fel arall.

“Ein gobaith a’n bwriad, wrth ddatblygu a gweithredu’r memorandwm hwn yw sicrhau bod yr arfer hon o gydweithio yn parhau ym mhob ardal.”