Y Goron
Fe fydd prif seremoni olaf Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch yn cael ei chynnal ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.

Bydd y Goron, sydd wedi cael ei dylunio gan yr athro o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Martyn Rees, yn cael ei chyflwyno i Brif Lenor yr Eisteddfod am ddarn o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema ‘Brâd’ – cyn belled bod un o’r rhai sy’ wedi cystadlu yn deilwng.

Yr awdures Manon Steffan Ross a Sioned Williams sy’n beirniadu eleni.

Bandyn pres yw’r goron, sydd â gwahanol ddelweddau i gynrychioli ardal Caerffili wedi’u cerfio arni – o goedwig Cwmcarn i het fez y comedïwr Tommy Cooper, maneg baffio Joe Calzaghe a gerddi Llancaiach Fawr.

Mwy o wobrwyo

Seremoni arall fydd yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn yw cyflwyno Gwobr Geraint George, am waith sy’n trafod pwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru.

Bydd enillydd Tlws y Telynor mwyaf addawol hefyd yn cael ei gyhoeddi yn ogystal âg Ysgoloriaeth Mrs Olwen Phillips a rhodd Capel Cymraeg Melbourne i’r unawdydd cerddorol mwyaf addawol rhwng 15-19 oed.

Gareth Potter yw Llywydd y Dydd.

Bydd seremoni’r Goron yn cael ei chynnal am 2:30 y prynhawn yma.