Jeremy Griffiths yn cyrraedd y maes heddiw
Mae un dyn wedi cyflawni ei ail orchest gorfforol heriol yn ei ymgais i godi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Fflint 2016.

Heddiw fe gyrhaeddodd Jeremy Griffiths faes Eisteddfod yr Urdd Caerffili yn Llancaiach Fawr ar ôl seiclo 150 o filltiroedd o Sir Fflint, gan ddechrau am hanner nos.

Llynedd fe fu’n nofio hyd Llyn Tegid wrth godi arian ar gyfer yr ŵyl fydd yn dod i’w ardal ef yn 2016.

Jeremy Griffiths yw cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Fflint y flwyddyn nesaf, ac fe ddywedodd wrth golwg360 ei fod eisoes wedi casglu £4,000 o’i her seiclo: