Yr argraffydd 3D
Mae cyfres deledu Game Of Thrones wedi cyrraedd pob math o lefydd bellach, ac felly dyw hi ddim yn syndod fod byd dychmygol Westeros hyd yn oed ar faes Eisteddfod yr Urdd erbyn hyn!

Drwy gydol yr wythnos mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn rhedeg amryw o arddangosfeydd yn y Gwyddonle ar y maes yng Nghaerffili, o gystadleuaeth Minecraft i sioe gyda hylif nitrogen.

Ac un peiriant sydd wedi dal dychymyg llawer o’r ymwelwyr i’r stondin yw’r argraffydd 3D, sydd wedi bod yn cynhyrchu modelau bach plastig drwy gydol yr wythnos.

Mae draig goch Cymru, Tardis Dr Who, a helics DNA eisoes yn rhai o’r pethau sydd yn cael eu harddangos, yn ogystal â model bach o gaer Winterfell o Game Of Thrones.

Dyma Heledd o’r stondin i esbonio mwy:


Y model 3D o Winterfell, caer yn Game Of Thrones
Mae’r Gwyddonle wedi bod yn leoliad poblogaidd ar y maes drwy gydol yr wythnos, gyda sôn bod dros 500 o bobl wedi ymweld â’r babell mewn dim ond hanner awr ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl.

Yn ogystal â’r argraffydd 3D sydd wedi dal y sylw, mae’r gwyddonwyr wedi bod yn cynnal sioeau yn dangos arbrofion gyda hylif nitrogen, sydd â thymheredd o dan 200 gradd Celsius.

Roedd y plant a phobl ifanc wrth eu bod yn gweld effaith yr hylif oer wrth iddo grebachu balwnau, caledu blu-tac, a chwalu maneg yn deilchion.

Gwyliwch rai o’r arbrofion yma: