Y Maes yng Nghaerffili
Bu disgyblion o Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, Patagonia yn crwydro Maes Eisteddfod yr Urdd Caerffili heddiw, cyn iddyn nhw gystadlu yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Ar ôl cynnal eu rhagbrofion dros Skype, mae’r disgyblion wedi teithio 7,000 o filltiroedd o Drelew er mwyn cystadlu yn y brifwyl.

Dywedodd eu hathrawes Catrin Morris y bydd cael dod i’r Eisteddfod yn “brofiad anhygoel” i’r plant gael gweld sut mae pobol yng Nghymru yn byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu Catrin Morris a’r disgyblion Dylan Hughes a Henry Iennela Jones yn siarad â golwg360: