Anni Llyn - Bardd Plant Cymru - ac Aneirin Karadog
Bardd Plant Cymru ar gyfer y ddwy flynedd nesa’ fydd Anni Llŷn, y llenor, cyflwynydd teledu a’r gantores o Ben Llŷn.

Mae hi eisoes yn wyneb cyfarwydd i blant a phobol ifanc Cymru ar ôl treulio pum mlynedd yn cyflwyno’r rhaglen Stwnsh ar S4C.

Daeth i amlygrwydd fel llenor yn 2012 pan enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd am nofel fer ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr i blant a phobl ifanc, Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig (Gomer, 2013) ac Asiant A (Y Lolfa 2014).

Fe fydd Anni Llŷn yn y swydd am y ddwy flynedd nesa ac fe fydd hi’n cymryd yr awenau yn llawn gan y Bardd Plant presennol, Aneirin Karadog, ym mis Medi.

Dyma Anni Llŷn yn sgwrsio â Golwg360 – ac Aneirin Karadog yn rhoi ambell dip am y swydd:

Cariad at farddoniaeth

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar lwyfan Prifwyl Eisteddfod yr Urdd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones y prynhawn yma.

Yn ymddiddori mewn rhyddiaith yn ogystal â barddoniaeth, mae Anni Llyn yn gobeithio rhoi stamp storïol ar ei rôl gan roi sylw arbennig i ganmlwyddiant dau awdur plant nodedig, sef T Llew Jones a Roald Dahl.

“Fy nghariad i ydi gweithio hefo plant a fy  nghariad arall i ydi geiriau a sgwennu. Mae hi’r swydd berffaith i mi o ran beth oeddwn i eisiau ei wneud nesa’,” meddai wrth golwg360.

“Dydw i ddim wedi bod mor gynhyrchiol â’r beirdd sydd wedi bod yn y gorffennol, ond dwi’n sicr yn edrych ymlaen at gael gwneud mwy.

“Mae perfformio a chwarae gemau hefo geiriau, cael plant i godi ar eu traed a gwneud pethau yn bwysig iawn i fi. Dwi’n gobeithio y byddai’n medru dod a’r gitâr i mewn i ambell sesiwn hefyd – amrywiaeth mae’r plant eisiau.”

Gair i gall

Ychwanegodd Aneirin Karadog, fel gair o gyngor iddi: “Mwynha, gwna’n siŵr bod y plant yn mwynhau a gwna’n siŵr nad yw e’n teimlo fel gwaith.”