Tudur Owen
Mae cyfle i chi fod ymhlith y cyntaf i glywed drama gomedi radio newydd, sy’n cynnwys Tudur Owen ymysg y cast, ar faes yr Eisteddfod yfory.

Mae’r ddrama-gomedi ‘Traed Mewn Llyfrau’ yn brosiect ar y cyd rhwng S4C a BBC Radio Cymru, ac mi fydd yn cael ei recordio yn Y Babell Lên am 5.45 brynhawn Iau, 7 Awst.

Wedi ei hysgrifennu gan ddau awdur ifanc o Wynedd, Ciron Gruffydd o Dremadog a Gwilym Dwyfor o Fryncir, mae ‘Traed Mewn Llyfrau’ yn gomedi ysgafn wedi ei gosod mewn siop lyfrau Gymraeg, ble mae’r perchennog Rheinallt Gwynfor yn crafu byw.

Mae’r comedi sefyllfa yn dilyn Rheinallt wrth iddo geisio meddwl am ffyrdd newydd i adfywio’r siop a denu rhagor o fusnes ond, tydi bywyd yn rhedeg siop lyfrau Cymraeg ddim cweit mor heddychlon a di-straen â’r hyn oedd Rheinallt wedi ei ddychmygu.

Yn serennu ym mhrif ran y perchennog siop sinigaidd a blin, mae Tudur Owen. Yn y cast hefyd mae Gruffydd Glyn, Meilyr Rhys Williams, Ffion Llwyd a Jams Thomas.

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: “Bu’n bleser gweithio gyda’r ’sgwennwyr Ciron a Gwilym, a BBC Radio Cymru, er mwyn datblygu’r sgript yn addas ar gyfer y radio.

“Mae recordio drama radio yn brofiad gwahanol iawn i wylio cynhyrchiad llwyfan neu ar deledu. Profwch hynny eich hunain yn Y Babell Lên brynhawn Iau, a dewch i fwynhau ac i fod ymhlith y cyntaf i glywed y comedi yma gan ddau ’sgwennwr ifanc.”

Meddai Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru: “Mae comedi a dychan yn faes pwysig i Radio Cymru, ac felly ry’n ni’n awyddus i neidio at bob cyfle posib i gyd-weithio er mwyn datblygu syniadau a thalent newydd.

“Ry’n ni’n croesawu’r cyfle i weithio eto gyda Ciron Gruffydd a gyda Gwilym Dwyfor, a dyma gyfle hefyd i glywed un o brif leisiau’r orsaf, Tudur Owen, yn mynd i’r afael a rôl Rheinallt Gwynfor, y perchennog siop blin a rhwystredig.”

Os na fyddwch chi ar faes yr Eisteddfod yfory, bydd ‘Traed Mewn Llyfrau i’w chlywed ar BBC Radio Cymru ar ddydd Gwener 15 Awst, ac mi fydd y perfformiad ar gael i’w gwylio ar s4c.co.uk y diwrnod canlynol.