Brynhawn heddiw yn y Pafiliwn, y gobaith yw y bydd coron o waith artist o Feirionnydd yn cael ei chyflwyno i Brif Lenor Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae’r goron wedi ei gwneud gan Mari Eluned o bentre’ Mallwyd, a hynny gan ddefnyddio arian, aur a llechen leol, ynghyd â ddefnydd wedi ei wehyddu’n lleol. Dechreuodd ar y gwaith ym mis Mawrth, cyn cyflwyno’r wobr i’r Eisteddfod ddechrau mis Mai mewn seremoni ym Mhortmeirion.

“Mae Mari yn artist talentog, ac mae parch mawr i’w gwaith yn lleol ac yn genedlaethol – mae hefyd wrth gwrs yn ferch ffarm leol o Feirionydd,” meddai Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Meirionnyd, Undeb Amaethwyr Cymru, sy’n rhoi’r goron.

Y dasg a rhoddwyd i’r cystadleuwyr oedd ysgrifennu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema ‘Pellter’. Dewi Prysor a Bethan Gwanas yw beirniaid y gystadleuaeth.