Eisteddfod Gadeiriol Llandyfaelog 6ed Tachwedd 2010.

Cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yn Neuadd Llandyfaelog ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 6ed gyda’r cystadlu yn frwd ac yn niferus trwy’r dydd. Y beirniaid eleni oedd :- Cerdd – Mr. Terence Lloyd, Llandudoch, Llefaru a llên – Y Prifardd Aled Gwyn, Caerdydd ac Arlunio – Mrs Rosemary Jones, Idole.

Bu Mr. Geraint Rees, Idole yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau lleol a Mr Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre yn cyfeilio ar gyfer y cystadlaethau agored.

Llywyddion yr eisteddfod eleni oedd Mrs. Mary Evans, Peniel yn y prynhawn a Mrs. Cerys Griffiths, Penarth yn yr hwyr. Cafwyd anerchiadau a chyfraniadau gwerthfawr gan y ddau lywydd, y ddwy ohonynt â chysylltiad agos iawn gyda bro yr eisteddfod.

Enillwyd Cadair yr eisteddfod gan Geraint Morgan, Penlle’rgaer, Abertawe gyda cherdd gaeth ar y testun “Llanw”. Yr oedd hi’n gystadleuaeth safonol a niferus o ran ymgeiswyr ac fe blesiwyd y beirniad yn fawr iawn. Yr oedd y gadair hardd yn rhoddedig gan Evans Buildings, Cwmffrwd.

Cyflwynwyd Cwpan Coffa John a Nan Anderson, Trelimsey i Maja Pickles am fod y cystadleuydd lleol o dan 11 oed sydd yn dangos yr addewid fwyaf. Cyflwynwyd Ysgoloriaethau Dr. Ron a Mrs. Betty Rees i Enlli Eluned Lewis (cerddoriaeth) ac Ifan Knott (llefaru) i’r cystadleuwyr gorau lleol o dan 16 oed. Cyflwynwyd cwpan her i’r ysgol leol uchaf ei marciau i Ysgol Y Fro. Cyflwynwyd cwpan her er cof am John Jones am lwyfannu eitem gan fudiadau lleol i Gapel Penygraig.

Mae aelodau’r pwyllgor yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a chefnogaeth tuag at lwyddiant yr eisteddfod. Dyma restr o’r buddugol ymhob cystadleuaeth.

Mae’r llun yn dangos Bardd y Gadair 2010, sef Geraint Morgan, Penlle’rgaer, Abertawe gyda rhai o aelodau’r orsedd. Cyflwynwyd y gadair gan gwmni Evans Buildings, Cwmffrwd. Yn y llun hefyd mae Anys Wood, Llansamlet, myfyriwr Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe, buddugol yng nghystadleuaeth Tlws y Llenor Ifanc.
Laura Blundell, Crymych, buddugol canu emyn dan 50 oed ac enillydd cyntaf Cwpan Coffa John ac Olwen Rees, Caeralaw.
Laura Blundell, Crymych, buddugol canu emyn dan 50 oed ac enillydd cyntaf Cwpan Coffa John ac Olwen Rees, Caeralaw.

Canlyniadau’r Eisteddfod

CERDD (lleol) 

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
Unawd Bl. 1 a 2 Lowri Jones Ifan Knott Leia Thomas
Unawd Bl. 3 a 4 Luke Rees Iwan Thomas Ellen Williams
Unawd Bl. 5 a 6 Osian Knott Maja Pickles Caryl Jones
Unawd offeryn cerdd ysgolion cynradd Gemma Davies Ffion Gibbon Caryl Jones
Parti unsain dan 16 Ysgol Y Fro Ysgol Y Fro  
Unawd Offeryn Cerdd 11 – 16 Bethan Phillips Enlli Eluned Lewis Manon James
Parti Recorder Ysgol Y Fro Ysgol Y Fro  
Unawd 11 – 16 Enlli Eluned Lewis Delyth Davies Manon James

 

LLEFARU (lleol)

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
Llefaru Bl. 1 a 2 Ifan Knott Fflur Richards Lowri Jones
Llefaru Bl. 3 a 4 Ffion Gibbon Iwan Thomas Iestyn Richards
Llefaru Bl. 5 a 6 Maja Phillips Osian Knott Caryl Jones
Llefaru dysgwyr Bl. 6 a iau Maja Pickles Orianna Evans  
Llefaru 11 – 16 Enlli Eluned Lewis    

 

ARLUNIO (lleol) 

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
Blwyddyn 1 a 2 Kelly Solloway Lowri Elen Jones Louis Zhac
Blwyddyn 3 a 4 Dylan Williams Isabell Trigwell-Jones Hannah Thomas
Blwyddyn 5 a 6 Maja Pickles Joanna Meliou a William Thomas Caryl Jones
Llawysgrifen Blwyddyn 7 – 11 Manon James    

 

CERDD (agored)

Cystadleuaeth Buddugol
Unawd dan 7 Megan Bryer
Unawd 7 – 11 Hannah Louise Richards
Unawd 11 – 14 Gwenllian Phillips
Unawd 14 – 17 Caryl Medi Lewis
Unawd Alaw Werin dan 17 Mirain Sarah
Unawd Sioe Gerdd dan 30 Laura Blundell
Emyn  dan 50 Laura Blundell
Emyn dros 50 Vernon Mahar
Deuawd agored Laura Blundell ac Adam Gilbert
Cenwch i’m yr Hen Ganiadau Vernon Mahar
Her Unawd dros 17 Adam Gilbert
Parti neu gôr Only Mynydd Aloud”, Mynydd-y-Garreg

 

LLEFARU (agored) 

Cystadleuaeth Buddugol
Llefaru dan 7 Megan Bryer
Llefaru 7 – 11 Sarah Louise Davies
Llefaru 14 – 17 Caryl Medi Lewis
Darllen Darn o’r Ysgrythur dros 17 Margaret Roberts
Her adroddiad dan 30 Enli Eluned Lewis
Her Adroddiad Joy Parry

 

LLENYDDIAETH

 

Y Gadair – Geraint Morgan, Penlle’rgaer, Abertawe

Tlws yr Ifanc – Anys Wood, Llansamlet ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
Englyn John Ffrancon Griffith, Abergele Richard Llwyd Jones, Caernarfon  
Gorffen Limrig Peter Lewis, Croesyceiliog    
Ysgrif ysgolion cynradd lleol Hannah Thomas    
Erthygl (Blynyddoedd 7 – 9) Sioned Martha Davies, Pencader Aled Eifion James, Croeyceiliog Leanne Ward, Ysgol Bryntawe, Aled Eifion James, Croesyceiliog
Darn o waith creadigol (Blynyddoedd 10 – 11 uwchradd) Esyllt Lewis, Ysgol Bryntawe Enlli Eluned Lewis, Croesyceiliog, Geraint Meek, Ysgol Bryntawe,Enlli Eluned Lewis, Croesyceiliog