Bet Jones yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen  Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych eleni.
Athrawes, sydd bellach wedi ymddeol, o Riwlas ym Mangor yw Bet Jones.
Ysgrifennodd y nofel fuddugol Craciau o dan y ffugenw Seiriol Wyn.
Mae’n disgrifio fel mae proses ffracio am nwy ar Ynys Môn yn arwain at greu daeargryn sy’n difrodi rhannau helaeth o dref Llangefni ac yn bygwth diogelwch Cob Malltraeth a gorsaf niwclear Yr Wylfa.
Dywedodd y beirniaid, Geraint Vaughan Jones, Bethan Hughes a Gwen Pritchard Jones: “Mae hon yn nofel hyderus, ddifyr ac amserol a bydd darllenwyr yn sicr yn ei mwynhau ac mae’r awdur yn llwyddo’n arbennig o dda i greu byd credadwy ond dieithr iawn, a hynny heb unrhyw gam gwag.”
Cyflwynir y fedal er cof am y nofelydd Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi gyda dim llai na 50,000 o eiriau, a gwobr ariannol o £5000 i’r enillydd. Fe fydd nofel Bet Jones, Craciau, hefyd yn mynd ar werth ar y Maes ac mewn siopau llyfrau.
Cafodd Bet Jones ei  geni a’i magu ym mhentref Trefor yng Ngwynedd. Bu’n athrawes yn Ysgol y Graig, Llangefni am bedair blynedd ar hugain. Mae wedi cyhoeddi dwy nofel flaenorol, Beti Bwt, yn 2007 a Gadael Lennon yn 2009.

Ffracio yn ddylanwad – fideo