Mae un o gomediwyr mwyaf adnabyddus Cymru wedi dweud ei bod hi’n wych gweld comedi stand-yp yn cael llwyfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd Daniel Glyn yn siarad gyda Golwg360 yn yr Eisteddfod yn Ninbych wedi iddo gynnal gweithdy sgwennu jôcs gyda phlant ar y maes cyn iddo gymryd rhan mewn noson stand-yp nos yfory.

“Beth sy’n ddiddorol,” meddai Daniel Glyn, “yw bod dim galw wedi bod am stand-yp Cymraeg yn draddodiadol oherwydd roedd y sin gomedi mor danddaearol, doedd dim canlyniad i’r peth.

“Ond mae ’na alw am stand-yp Cymraeg nawr a hefyd mae’n ateb y cwestiwn sydd wedi cael ei ofyn sawl gwaith sef ydyn ni Gymry Cymraeg yn gallu bod yn ddoniol?Wrth gwrs ein bod ni.”
Y Babell Lon

Nos yfory, bydd noson Y Babell Lon yn cael ei chynnal yn y Babell Len ar faes yr Eisteddfod gyda Daniel Glyn, Gary Slaymaker, Rhian ‘Madam Rygbi’ Jones, Phil Evans, Beth Angell a Noel James yn cymryd rhan.
Nid honno yw’r unig noson gomedi sy’n cael ei chynnal yn yr Eisteddfod eleni gan i noson stand-yp Cymdeithas yr Iaith gyda Tudur Owen werthu pob tocyn nos Sul.
Ond dyw Daniel Glyn ddim yn poeni am y gystadleuaeth.
“Mae pobl wedi holi fi os o’n i’n flin bod Cymdeithas wedi trefnu hwnna ond fi ddim. Dwi wrth fy modd bod dwy noson gomedi yn yr Eisteddfod – flwyddyn nesa, hoffwn i  weld noson stand-yp bob nos.
“Mae’r Eisteddfod hefyd yn cynnal cystadleuaeth sgwennu stand-yp erbyn hyn sydd hefyd yn wych achos sail pob perfformiwr da yw’r deunydd.
“Ond beth sy’n bwysig yw bod stand-yp yn dechrau dod yn rhan annatod o ddiwylliant Cymraeg – a da o beth yw hynny.”