Ar faes yr Eisteddfod mae caffi newydd wedi cael ei lansio ar gyfer pobl ifanc y maes, hyn i gydfynd a’r galw am lwyfan cerddorol cyfoes estynedig a man cymdeithasu arall ar y maes.

Cynhaliwyd adolygiad yn ystod Tachwedd 2012, gyda nifer o grwpiau ffocws a chyfarfodydd yn rhoi cyfle i bobol ymateb i ddarpariaeth ar gyfer pobol ifanc ar Faes yr Eisteddfod ac ym Maes B.

Stori fideo ar Golwg 360

Bwriad yr Eisteddfod oedd creu lle arbennig ar gyfer pobl ifanc ar y Maes dan y teitl Caffi Maes B, gyda’r cyfle i wrando ar rhai o brif artistiaid cerddorol Cymru, megis Cowbois Rhos Botwnnog a Georgia Ruth Williams , gan hefyd gymryd rhan mewn trafodaethau ynglyn a’r sin gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.

Mae’r caffi mewn ti-pi ger Cerrig yr Orsedd ar faes yr Eisteddfod.