Prifysgol Bangor
Mae myfyrwraig o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at berfformio darn o waith Frank Zappa ar daith o amgylch gwledydd Prydain y mis hwn.

Fe fydd Sioned Eleri Roberts, 30 oed o Fangor, yn perfformio un o ganeuon y gitarydd chwedlonol ar y clarinét gyda’i fab, Dweezil, sydd yn teithio gyda’i fand Zappa Plays Zappa.

“Mae’r band yn grŵp o gerddorion gwych, ac maen nhw’n chwarae cerddoriaeth  Frank Zappa efo angerdd,” meddai Sioned.

“Maen nhw wedi ennill Grammy am y perfformiad roc offerynnol gorau ychydig flynyddoedd yn ôl.

“Dw i wedi bod i weld ei fab yn perfformio sawl gwaith ac yn ystod eu taith ddiwetha’, o’n i’n ddigon ffodus i gyfarfod Dweezil. Mi wnaeth hyn arwain at rannu fy recordiau yn chwarae’r clarinet ar wefan Dweezil.

“Fisoedd yn ddiweddarach ac yn ddi-rybydd, mi ges i neges gan Dweezil yn gofyn a faswn i’n hoffi ymuno â’r band ar y llwyfan i chwarae un o ganeuon Frank Zappa ar un neu ddau o ddyddiadau yn ystod eu taith.

“Mi o’n i – a dw i’n dal – wrth fy modd!” meddai Sioned eto.

Bydd Sioned yn perfformio yn y Roundhouse yn Llundain ar Dachwedd 10, ac yn Neuadd y Dref Birmingham ar Dachwedd 18.