Georgia Ruth Williams
Dylan Iorwerth yn cael modd i fyw ar daith y Cowbois a’u ffrindiau

Taith ydi hon ac roedd y teithio’n digwydd trwy’r nos … ar longau, tros fynyddoedd ar awyren tros afon Seine ac i sawl lle i chwilio am gariad.

Roedd yna drefi gwyn, a gadael a dod adre’; roedd yna famau’n dyheu am weld meibion ymhell tros y môr a merched ifanc yn colli dynion a gipiwyd gan y press gang. Roedd yna chwilio hefyd.

Hiraeth ydi’r bwlch rhwng fan hyn a’r lle diwetha’ ac mae’n siŵr mai gobaith ydi’r lle nesa’ ar y daith … dyna oedd dau emosiwn cryfa’r perfformiadau o ganu gwerin meddylgar.

Georgia Ruth

Rhyw focs o beth oedd gan Georgia Ruth Williams o’i blaen wrth agor y noson – organ gyrs o’r 70au, meddai hi – a’r sain ddrônllyd yn berffaith ar gyfer y shanti fôr ‘Codi Angor’.

Roedd honno hefyd yn sain gyson trwy’r nos – sŵn llyfn neu gyson y tu cefn i ganu ac offerynnau rhythmig. Fel y delyn ar ‘Hallt’ – ac offeryn cerdd dant yn troi’n offeryn cyhyrog, hyblyg.

Roedd yna hefyd gyfuniadau diddorol o leisiau sawl tro yn ystod y tri pherfformiad, lleisiau ysgafnach wrth ochr rhai mwy pruddglwyfus ac Iwan o’r Cowbois.

Rhyw hyder efo ymylon bregus sydd gan Georgia Ruth a’i phersonoliaeth yn un â’r caneuon, sy’n brydferth ond yn graff hefyd. Roedd yna daith bersonol yn ‘Dod yn ôl’ a ‘Mapping’, â’i geiriau tyner a pherfformiad cyfareddol yn uchafbwynt.

“Laura Marling” meddai rhywun dan ei gwynt, gan gyfeirio at y safon. Ac mi fyddai noson fel hon yn costio ffortiwn yn Saesneg tros y ffin.


Gareth Bonello - The Gentle Good
The Gentle Good

Mwy traddodiadol ydi ffurf caneuon Gareth Bonello a’r Gentle Good a nhwthau’r tro yma yng nghwmni’r Marvin Quartet a’u seiniau cerddorfaol yn llifo y tu cefn i symlder yr alawon.

Mae’r geiriau ar eu gorau yn y penillion telyn a’u hodlau mewnol celfydd ac yn well pan fydd stori i’w dweud yn hytrach na hel meddyliau.

Roedd y môr yma eto, ac roedd bardd yn crwydro’r mynyddoedd yn seithug yn chwilio am ysbrydoliaeth. ‘Cysgod y Dur’ oedd y gampwaith a’i thaith o waith Tremorfa i gampau awyrennwr cynnar yn lŵp-di-lwpio uwch prifddinas Ffrainc.

Ac yntau’n addfwyn ei ffordd ac yn ail diwnio’r gitâr yn gyson, doedd caneuon Gareth Bonello ddim yn cael yr un cyfle i adeiladu emosiwn a chynnal neu gyferbynnu ond roedd y seiniau’n gyfoethog.


Cowbois Rhos Botwnnog
Cowbois Rhos Botwnnog

Ac wedyn y Cowbois … llysgenhadon hiraeth a gadael. Mae’r môr yn eu cerddoriaeth, yn chwyddo’n llanw o sŵn o’ch cwmpas ac wedyn yn llithro’n ôl.

Maen nhw’n gwybod yn berffaith pryd y mae sŵn yn cynyddu emosiwn cân; yn bwysicach, maen nhw’n gwybod gwerth tawelwch ac unigrwydd llais.

Roedd yna ddwy gân werin Saesneg – ‘Wild Mountain Time’ o’r Alban a chân ddirdynnol am chwerwder cariad o rywle yn America. A’r ddwy’n swnio fel caneuon Cowbois Rhos.

Fel Christy Moore a’i debyg, mae ganddyn nhw’r gallu i gymryd caneuon a’u meddiannu nhw. ‘Ymlaen mae Canaan’, Steve Eaves, er enghraifft, yn llawnach na’i fersiwn o, a ‘Gerfydd fy Nwylo Gwyn’ Twm Morys yn berffaith ar y diwedd efo un gitâr a llais cyfareddol Iwan Huws.

Nabod teimlad cân y maen nhw – gwerthfawrogi cynildeb ysol ‘Deio Bach’ a hiraeth mam, teimlo’r dicter yn ‘Ffarwel i Langyfelach’, a’r defnydd o offerynnau a harmonïau’n gweddu, heb ddim byd wast.

Y caneuon cyflymach, mwy uniongyrchol oedd leia’ gafaelgar rhywsut ond efallai bod angen y rheiny hefyd i danlinellu dwyster y lleill.

Os buodd yna well cyngerdd gwerin modern Cymraeg (efo twtshus Saesneg), mi  fuodd rhyw gynulleidfa yn rhywle yn ddychrynllyd o lwcus.

Bu Dylan yn y noson yn Theatr Felinfach ar nos Fawrth 23 Hydref. Mae’r daith yn ymweld â phedwar theatr arall dros yr wythnos nesaf – manylion yma.