John Williams
Bydd un o gyfansoddwyr amlycaf y diwydiant ffilmiau, John Williams, yn cael ei wobrwyo yng Ngwobrau’r Brits Clasurol.

Mae John Williams, sydd wedi ennill 5 Oscar, yn adnabyddus am ei gyfansoddiadau ar gyfer rhai o ffilmiau mwyaf eiconig y ganrif ddiwethaf – yn eu plith mae Jaws, Harry Potter, Star Wars, Superman, Home Alone, ET, Schindler’s List, Jurassic Park a Indiana Jones.

Ar 2 Hydref bydd John Williams, 80, yn derbyn gwobr gydol oes yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain.