Huw Owen
Yn dilyn llwyddiant y sioe gerdd ‘SBRI’ yn Eisteddfod yr Urdd eleni, mae un o’r perfformwyr wedi rhyddhau sengl sydd wedi ei henwi’n drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru’r wythnos yma.

Cafodd Huw Owen, disgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Brynrefail ger Caernarfon, y cyfle i recordio ‘Ffrind’ yn dilyn ei ymddangosiad ar lwyfan yr Urdd mis diwethaf.

Cyd-weithiodd Cwmni’r Frân Wen gyda thua 130 o ddisgyblion ardal Eryri ar gynhyrchiad newydd sbon gan Iola Ynyr, Beth Angell ac Owain Gethin Davies.

Cafodd ei lwyfannu yn y Galeri yng Nghaernarfon ddechrau mis Mehefin i agor gweithgareddau Eisteddfod yr Urdd Glynllifon 2012.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl i ddim byd ddod allan ohono ar ôl recordio’r sengl,” meddai Huw Owen. “Roedd hi’n grêt deall fod ‘Ffrind’ yn drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru.

“Roedd perfformio yn sioe ‘SBRI’ gan Gwmni’r Fran Wen yn brofiad gwych – doeddwn i erioed wedi gwneud dim byd ar y lefel yna o’r blaen.”

“[Mae’n] hyfryd gweld fod Huw wedi cael cyfle i recordio sengl ‘Ffrind’ ar ôl ei chanu yn sioe SBRI,” meddai datganiad gan Gwmni’r Fran Wen. “Llongyfarchiadau mawr iddo ar drac hyfryd.”

Cynllun newydd Cwmni’r Fran Wen

Bydd cyfle i bobl ifanc o dan 25 oed gyfrannu at ‘Gwyn Dy Fyd’ – prosiect newydd Cwmni’r Fran Wen sy’n dechrau fis Hydref.

“Bydd y cynllun yn cynnig amryw o gyfleoedd i bobl ifanc – sgwennu, cynllunio, perfformio, cyfarwyddo a dyfeisio,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Byddwn yn lansio’r cynllun fis Medi ac yn cynnal cyfres o weithdai creadigol fis Hydref a Thachwedd.”