George Shearing (O'i wefan)
Fe fu farw’r pianydd jazz, George Shearing, yn 91 oed yn Efrog Newydd.

Ef oedd yn gyfrifol am gyfansoddi’r gân enwog Lullaby of Birdland ac fe fu’n arwain band yn ei enw ei hun.

Roedd wedi dechrau ei yrfa yn Lloegr cyn croesi’r Iwerydd yn 1947 a dod yn enwog gyda’r George Shearing Quintet.

Roedd yn ddall o’r crud ac wedi bod yn fusgrell ers syrthio yn ei gartre’ yn Efrog Newydd yn 2004.