Record 'Safwn yn y Bwlch' Hogia'r Wyddfa
Bu farw cyfansoddwr dwy o ganeuon ysgafn mwya’ poblogaidd yr iaith Gymraeg.

Glyn Roberts oedd yn gyfrifol am gyfansoddi geiriau ‘Safwn yn y Bwlch’ Hogia’r Wyddfa, yn ogystal â ‘Gafael yn fy Llaw’ John ac Alun, ynghyd â geiriau nifer fawr o ganeuon cofiadwy a theimladwy eraill.

Yn ogystal â bod yn gyn-brifathro Ysgol Llanbedrog a chyn-ddirprwy Ysgol Troed-yr-allt, Pwllheli, roedd “Glyn Maer” fel yr oedd ei lysenw’n awgrymu, wedi bod yn gynghorydd tref ac yn Faer Pwllheli – y tro cyntaf iddo wisgo’r tsiaen oedd rhwng 1971 a 1973, ac yna eto rhwng 2002 a 2004.

Bu farw Glyn Roberts ar Fai 20 “yn frawychus o sydyn” yn Ysbyty Gwynedd Bangor ac yng nghwmni ei deulu agosaf, yn ôl cyhoeddiad gan ymgymerwyr  G D Roberts a’i Fab, Pwllheli. Roedd eisoes wedi colli ei wraig, Eirlys, ac yn byw yn y ty oedd yn gyfuniad o’i enw ef a’i wraig, Eirlyn, ar Allt Salem yn y dre’.

Mae ei gynhebrwng yn cael ei gynnal heddiw yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli ac yna yn Amlosgfa Bangor.