Gio Compario
Mae tenor o Gaerfyrddin sy’n enwog am chwarae rhan Gio Compario yn hysbysebion gwefan yswiriant Go Compare wedi arwyddo cytundeb recordio â Warner Brothers.

Mae Wynne Evans yn dathlu ar ôl sicrhau cytundeb i recordio chwe albwm â’r cwmni adloniant enwog.

Mae’r Cymro eisoes yn uchel ei barch yn y byd canu opera ond yn ôl Wynne Evans mae’r cytundeb yn bennaf o ganlyniad i’w amlygrwydd newydd.

“Mae cael fy ngweld ar y teledu yn golygu bod mwyafrif y cwmnïau recordio wedi cysylltu gyda fi, sydd wedi rhoi’r cyfle i mi wneud y math o albwm ydw i wedi bod eisiau ei wneud,” meddai Wynne Evans wrth bapur newydd y South Wales Evening Post.

Mae ei gymeriad enwog Gio Compario hefyd yn llygadu’r siartiau. Mae o wedi rhyddhau cân ‘Santa Clause Is Coming To Town’ cyn y Nadolig.

Bydd 25c o bob cân a geith ei lawr lwytho yn mynd tuag at Teenage Cancer Trust.