Russell Watson
Bydd un o denoriaid amlycaf Prydain yn perfformio yn Eisteddfod Llangollen am y tro cyntaf eleni.

Mae Russell Watson yn enwog am ddod a chaneuon gan gynnwys E Sara Cosi, Parla piu piano, a Be My Love i sylw’r genedl.

Ymhlith y gwesteion eraill fydd yn perfformio yn y gyngerdd ar 5 Gorffennaf fydd Faryl Smith, Mezzo-sorprano ddaeth i enwogrwydd ar raglen deledu Britain’s Got Talent.

“Rydw i wrth fy modd yn cael dilyn yn ôl traed gymaint o sêr sydd wedi camu ar lwyfan yr Eisteddfod enwocaf yn y byd,” meddai Russell Watson.

“Mae’r ŵyl mewn gwlad sy’n cael ei hadnabod fel ‘gwlad y gân’ a fedra i ddim aros i gamu ar lwyfan y pafiliwn a pherfformio yno. Llangollen, dwi ar fy ffordd!”

Dywedodd Mervyn Cousins, Prif Weithredwr Eisteddfod Llangollen, ei bod yn wych croesawu “un o leisiau mwyaf poblogaidd a mwyaf pwerus y byd i Langollen”.

“Mae’n ymuno â rhestr faith o gantorion penigamp sydd wedi perfformio ar y llwyfan yma yn Llangollen.”