Tri Tenor Cymru
Mae triawd canu enwocaf Cymru’n rhyddhau sengl ddigidol o ganeuon o’r byd rygbi.

Fe fydd y Tri Tenor yn rhyddhau medli o ganeuon gyda’r bwriad o ysbrydoli carfan Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda chlasuron fel Cwm Rhondda, Delilah, a’r anthem genedlaethol. Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar iTunes ar ddydd Gwener, 24 Chwefror.

Y tri tenor yw Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins. Ar ôl gyrfaoedd unigol llwyddiannus daeth y tri at eu gilydd am y tro cyntaf fel triawd yng Ngwyl Celtfest yng Nghaerdydd i ddiddanu’r ffans rygbi cyn gêm rhwng Cymru a Seland Newydd. Plesiwyd y gynulleidfa, ac aeth y triawd o nerth i nerth.

Cyhoeddodd y Tri Tenor eu cryno-ddisg cyntaf ym mis Awst y llynedd, a chyrraedd y Classical Album Charts ym mis Medi.

Ym mis Mawrth bydd y tri yn hedfan  i Los Angeles i berfformio ac i ddathlu Dydd Gwyl Dewi gyda chymdeithasau Cymraeg LA a Seattle cyn dychwelyd yn ôl i Brydain ar gyfer perfformiad i’r rhaglen ar BBC Radio 2 ‘Friday Night is Music Night’.