(Llun o boster y cyngerdd)
Bydd un o gorau mwyaf arloesol ac adnabyddus Caerdydd yn perfformio gwaith a gyfansoddwyd gan eu harweinydd mewn cyngerdd arbennig nos Sul nesaf.

 Christus Natus Est (Ganwyd Crist) yw teitl y gwaith cerddorddol gan Eilir Owen Griffiths, arweinydd CF1 a fydd yn cael ei berfformio gan aelodau’r côr yng nghanolfan gelfyddydol a chymunedol The Gate yn y Rhâth am 8.00.

 “Dathliad cerddorol yw’r gwaith, sy’n cyfuno carolau adnabyddus a cherddoriaeth wreiddiol gan Eilir,” meddai llefarydd ar ran CF1.

 “Mae’n waith arbennig ac egnïol iawn, gyda threfniannau blodeuog a hwyliog.”

 Ychwanegodd y llefarydd fod modd archebu tocynnau gan aelodau’r côr, neu trwy gysylltu â The Gate ar 029 2048 3344 neu www.thegate.org.uk