Cefnogaeth i Leoliadau Cerddoriaeth Lleol yng Nghymru

Diweddarwyd am  
Y gwleidydd yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn 2015

Dafydd Elis-Thomas

Llun oddi ar ei dudalen Facebook

Mae Cymru Greadigol wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth lleol yng Nghymru fel rhan o becyn cymorth gwerth £18 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector diwylliant.

Erbyn hyn, mae cyfanswm o £401,551.39 o gyllid wedi ei roi i 22 o fusnesau cerddoriaeth i helpu’r diwydiant yn ystod yr heriau sy’n gysylltiedig â Covid-19.

“Rydyn ni wedi gwrando ar nifer o’n rhanddeiliaid o fewn y sectorau bregus hyn,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas

“Rydyn ni yn deall bod rhain yn amseroedd ansicr i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru ac yn cydnabod yn llawn yr heriau enfawr nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen y mae y coronafeirws yn ei gael ar fywyd Cymru.”

Tra bod Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, Gerwyn Evans, wedi dweud: “Mae’r diwydiant cerddoriaeth fyw ar lawr gwlad yn hollbwysig i ddatblygiad cerddorion yng Nghymru.

“Mae’r  hinsawdd bresennol wedi creu amgylchiadau heriol iawn i leoliadau, eu staff a’r diwydiant cerddoriaeth yn ehangach.

“Crëwyd y gronfa hon i geisio ysgafnhau’r baich ariannol ar draws y diwydiant i helpu lleoliadau, stiwdios, gweithwyr llawrydd ac unrhyw un arall o fewn y diwydiant cerddoriaeth yr effeithiodd Covid-19 arnynt.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn