Mae Georgia Ruth wedi gohirio’i thaith yng Nghymru oedd i fod i ddechrau’r wythnos nesaf.

Dywed iddi benderfynu canslo’r daith “oherwydd y datblygiadau diweddar efo Covid-19”, neu coronavirus.

Roedd disgwyl i’r daith ddechrau yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro nos Wener (Mawrth 20) a gorffen yn Wrecsam ar Ebrill 4, gyda pherfformiadau yn Aberystwyth, Caer, Pontio Bangor, Amwythig, y Gate yng Nghaerdydd a Tŷ Pawb yn Wrecsam.

Bydd ei halbym ‘Mai’ yn cael ei ryddhau ar Fawrth 20.

Datganiad

Mae Georgia Ruth wedi cyhoeddi datganiad dwyieithog ar Twitter yn egluro’r penderfyniad.

“Yn drist iawn i gyhoeddi fod gigs y daith yn cael eu gohirio oherwydd y datblygiadau diweddar efo Covid-19,” meddai.

“Er yn un anodd, ma’ hwn yn teimlo fel y penderfyniad iawn.

“Gobeithio gallu ail-drefnu yn fuan iawn.

“I bawb sydd eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch â’r veneues neu’r gwerthwyr am fwy o wybodaeth.

“Dw i’n drist na fydda i’n cael cyfle i ganu’r caneuon i chi y tro hwn, wedi edrych mlaen gymaint at chwarae gyda’r band arbennig ’ma.”

‘Cefnogwch’

Mae hi’n mynd yn ei blaen i annog pobol i gefnogi cerddorion ac artistiaid cerddorol.

“Ond yn y cyfamser, plis cefnogaeth y cerddorion a’r artistiaid chi’n caru trwy brynu eu gwaith a’u cerddoriaeth.

“Fydd e’n neud gwahaniaeth mawr.”