Mae enwau’r wyth cystadleuydd fydd yn brwydro i gipio tlws Cân i Gymru eleni wedi cael eu cyhoeddi.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal a’i darlledu’n fyw nos Sadwrn, Chwefror 29 ac yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth am 8 o’r gloch.

Yr wyth cân sy’n cystadlu am wobr o £5,000 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-geltaidd eleni yw:

  •  Arianrhod gan Beth Celyn
  • Adref yn ôl gan Tesni Jones; Sara Williams, Roo Walker
  • Dawnsio’n Rhydd gan Ben Hamer a Rhianna Loren
  • Pan Fyddai’n 80 Oed gan Rhydian Meilir
  • Morfa Madryn gan Alistair James
  • Y Tir a’r Môr gan Rhydian Meilir
  • Cyn i’r Lleni Gau gan Gruffydd Wyn a Tim Goodcare
  • Anochel gan Aled Mills.

Y cyn enillydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno’r gystadleuaeth.

Y panel eleni yw Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Roberts.

A bydd Bryn Fôn yn gwneud perfformiad arbennig o Gwlad yr Rasda Gwyn i nodi ei bod hi’n dri deg blwyddyn ers i’r gân gipio tlws Cân i Gymru.

“Roedd hi’n dipyn o dasg dewis wyth cân gan fod lot o geisiadau da,” meddai.

“Mae’r pedwar ohonom yn cynrychioli gwahanol fathau o gerddoriaeth, felly dwi’n credu fod dipyn o drawstoriad.”