Mae ‘Yma O Hyd’, cân Dafydd Iwan sy’n un o glasuron cerddoriaeth Gymraeg, wedi llwyddo i gyrraedd deg uchaf sawl un o’r siartiau lawrlwytho cerddoriaeth Prydeinig.

Fe ddaw ar ôl i Yes Cymru fynd ati i annog pobol i lawrlwytho’r gân er mwyn tynnu sylw at yr ymgyrch tros annibyniaeth i Gymru.

Mae hefyd yn dilyn ymgyrch debyg yn Iwerddon, sydd wedi gweld ‘Come Out Ye Black and Tans’ yn cyrraedd brig y siartiau lawrlwytho Gwyddelig dros y dyddiau diwethaf.

Mae ‘Yma O Hyd’ eisoes wedi cyrraedd rhif un yn siartiau lawrlwytho Amazon, a rhif tri gan iTunes er ei bod hi bellach yn seithfed yn y siart honno.

Mae hi hefyd wedi cyrraedd brig siartiau canwr-cyfansoddwr iTunes.

Ar ei hanterth, mae’r gân wedi llwyddo i drechu ymdrechion gan Stormzy, Dua Lipa a llu o gerddorion a grwpiau sy’n boblogaidd drwy wledydd Prydain a thu hwnt.