Mae Gwilym Bowen Rhys, y canwr gwerin o Fethel ger Caernarfon, yn y ras i gael ei enwi’n Ganwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin Radio 2 heno (nos Fercher, Hydref 16).

Bydd yr ugeinfed gwobrau’n cael eu darlledu’n fyw rhwng 7-9yh fel rhan o Ŵyl Werin Manceinion. 

Fe fydd Gwilym Bowen Rhys yn herio Lisa O’Neill, Olivia Chaney a Ríoghnach Connolly am y brif wobr.

Hefyd wedi’u henwebu yn y categori Deuawd neu Grŵp Gorau mae Catrin Finch a Seckou Keita, a byddan nhw’n herio Stick in the Wheel, The Breath a The Rheingans Sisters.

Mae eu halbwm Soar hefyd wedi’i enwebu ar gyfer gwobr yr Albwm Gorau, a Seckou Keita, sy’n hanu o Senegal, hefyd wedi’i enwebu ar gyfer gwobr Cerddor y Flwyddyn.

Byddan nhw’n perfformio’n fyw yn ystod y noson.

Mae’r gân Ffoles Llantrisant gan VRï wedi’i henwebu yng nghategori’r Trac Traddodiadol Gorau.