Y delynores a chantores Gwenan Gibbard yw enillydd Ysgoloriaeth Ddoethurol i astudio cyfraniad Dr. Meredydd Evans a Phyllis Kinney i gerddoriaeth werin yng Nghymru.

Daeth y cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 17) gan y Llyfrgell Genedlaethol, sy’n cynnig yr ysgoloriaeth fel rhan o gynllun ar y cyd rhwng yr Archif Gerddorol Gymreig, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Fe fydd yr astudiaeth, a fydd yn cychwyn ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar agweddau penodol o fyd casglu alawon gwerin ail hanner yr ugeinfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Bydd Gwenan Gibbard yn astudio’n rhan amser dros gyfnod o chwe mlynedd, a’i gwaith yn fodd o hyrwyddo Archif Merêd a Phyllis.

Gwenan Gibbard

Mae Gwenan Gibbard, sy’n hanu o Bwllheli, yn adnabyddus fel telynores a chantores, perfformwraig a chyfansoddwraig, a beirniad a chyfeilydd ar lefel genedlaethol.

Mae hi wedi cyhoeddi tri albwm unigol gyda chwmni Sain, ac un EP.

Mae hi’n aelod blaenllaw o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac yn arwain a chyfeilio i Gôr yr Heli.

“Roeddwn yn falch fod yr ysgoloriaeth wedi ennyn cymaint o ddiddordeb, a bod ymgeiswyr o safon mor uchel wedi ymgeisio,” meddai Nia Mai Daniel, Rheolwr Rhaglen yr Archif Gerddorol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol.

“Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cenedlaethol Archifau Merêd a Phyllis Kinney. Llongyfarchiadau i Gwenan Gibbard, edrychwn ymlaen yn fawr i gydweithio gyda hi yn ystod y blynyddoedd i ddod.”

‘Braint’

“Fel un o berfformwyr traddodiadol amlwg y genedl ac awdures cyfrol odidog ar fywyd Dora Herbert Jones, bydd yn fraint i ni yn Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor gael cydweithio gyda’r delynores, Gwenan Gibbard,” meddai’r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.

“Rwy’n ffyddiog y bydd y dyfodol yn gyfnod hynod o gynhyrchiol ac yn gyfrwng i gryfhau’r cyswllt rhyngom a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chasgliad gwerthfawr Merêd a Phyllis.”

“Mae’r Llyfrgell yn falch o fedru blaenoriaethu ymchwil ym maes cerddoriaeth werin, a chydnabod ei bwysigrwydd i ni yn nghyd destun ein casgliadau cerddorol,” ychwanega Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.

“Mae archif a ffrwyth ymchwil helaeth Merêd a Phyllis yn anghymharol a phleser digamsyniol fydd medru croesawu Gwenan, sy’n ymchwilydd praff a cherddor disglair, i’r Llyfrgell.”