Mae llwyfan newydd wedi ei ychwanegu at yr arlwy yng Ngŵyl Fach y Fro ym Mro Morgannwg eleni.

Bydd yr ŵyl Gymraeg rhad ac am ddim yn cael ei chynnal ar bromenâd Ynys y Barri y penwythnos hwn (dydd Sadwrn, Mehefin 15), gyda’r canwr Meic Stephens a The Gentle Good ymhlith y rhai fydd yn diddanu.

Yn ôl Menter Iaith Bro Morgannwg, y trefnwyr, mae Gŵyl Fach y Fro yn “mynd o nerth i nerth” ers iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf yn 2015.

“Mae gyda ni gynulleidfa ffyddlon iawn sy’n dod i fwynhau’r arlwy ar bromenâd Ynys y Barri, a gobeithio eleni fe fydd yna fwy eto yn dod i weld cerddoriaeth Gymraeg, ysgolion yn cymryd rhan, a’r arlwy sydd gennym ni o ran stondinau a bwyd,” meddai Manon Rees-O’Brien o Fenter Iaith Bro Morgannwg wrth golwg360.

“Mae gyda ni weithgareddau ar gyfer y plant. Rydyn ni’n cydweithio gyda’r Urdd, a bydd yna gyfle i’r plant a’u teuluoedd gymryd rhan mewn bob math o chwaraeon ar y traeth eleni.

“Mae gennym ni lwyfan gymunedol newydd eleni, o’r enw Glanfa Gwynfor, a dyna lle bydd ysgolion yr ardal yn cael perfformio trwy gydol y dydd.”

Croesi bysedd am dywydd da

Wrth edrych ymlaen tuag at yr ŵyl, mae’r trefnwyr gobeithio y bydd y tywydd yn ffafriol, gan fod y digwyddiad awyr agored ar drugaredd yr elfennau.

“Mi gawson ni dywydd gwych ddwy flynedd yn ôl a chawson ni dros 6,500 yn dod i fwynhau,” meddai Manon Rees-O’Brien.

“Y llynedd, roedd o ychydig bach yn llai, gydag ychydig dros 4,000, ond roedd y tywydd yn wyntog ofnadwy.

“Yn anffodus, oherwydd ei leoliad o, mae’r tywydd yn cael rhywfaint o ddylanwad. Ond… mae gennym ni gynulleidfa rŵan sy’n ffyddlon, felly rydyn ni’n ffyddiog y cawn ni o leiaf yr un faint â’r llynedd.”