Tri Tenor Cymru
Mae Tri Tenor Cymru – sef Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins – wedi cyhoeddi taith i gyd-fynd â rhyddhau eu halbwm y tu allan i Gymru.

Rhyddhawyd albwm cyntaf y triawd yng Nghymru yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni, ac roedd y triawd i’w gweld yn perfformio’r rheolaidd ar y maes i’w hyrwyddo.

Roedd gwerthiant cystal nes i’r albwm gyrraedd y siart Clasurol Prydeinig – y tro cyntaf i record gan label Sain lwyddo i wneud hynny.

Er mwyn hyrwyddo’r ffaith bod yr albwm bellach yn cael ei ryddhau y tu hwnt i Gymru, bydd Tri Tenor Cymru’n gwneud chwe chyngerdd dros yr hydref.

Mae’r mwyafrif o’r cyngherddau hyrwyddo’n digwydd yng Nghymru, ond bydd y noson gyntaf yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Cymry Llundain yn Gray’s Inn Road wythnos i nos Sadwrn.

Cantores yn cefnogi

Yn ymuno â’r triawd ar y daith fydd y gantores ifanc o Ynys Môn, Lucy Kelly.

Mae’r daith yn gyfle i gyflwyno’r ferch ifanc, a recordiodd ei halbwm cyntaf pan oedd yn ddim ond 12 oed, i gynulleidfa newydd.

Cafodd ei hail albwm, Angel, ei ryddhau ym mis Gorffennaf eleni.

Manylion llawn y daith:

15/10/11 – Canolfan Cymry Llundain, Gray’s Inn Rd, Llundain

09/11/11 – Neuadd Fawr, Aberystwyth

1911/11 – Neuadd Pontyberem, Llanelli

21/11/11 – Stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd

3/12/11  – Y Ganolfan, Porthmadog

14/12/11  – Theatr Felinfach, Felinfach