Mae cyfres ar S4C a ddewisodd ferch o Rostryfan ger Caernarfon i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Eurovision yr Ifanc y llynedd, yn ôl eleni eto.

2018 oedd y flwyddyn gyntaf erioed i Gymru gystadlu fel cenedl unigol yn y gystadleuaeth, a Manw Lili a gafodd y fraint o gynrychioli ei gwlad ym Minsk, Belarws ym mis Tachwedd.

Er iddi ddod yn olaf, roedd nifer o Gymry yn falch bod yr iaith Gymraeg wedi cael llwyfan rhyngwladol.

Mae cystadleuaeth Eurovision yr Ifanc 2019 yn cael ei chynnal yn Arena Gilwece, Gwlad Pwyl ar Dachwedd 24.

Ond cyn hynny mae S4C a’r cwmni cynhyrchu Rondo Media yn chwilio am seren newydd, a bydd cyfres o glyweliadau yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf.

 “Wrth fy modd”

Ychwanegiad i’r panel o fentoriaid eleni yw seren The X Factor yn 2017, Lloyd Macey, sy’n cymryd lle Stifyn Parri.

Fe fydd yn ymuno â dau o fentoriaid y llynedd – Tara Bethan a Connie Fisher.

“Dw i wrth fy modd i gael ymuno gyda’r mentoriaid,” meddai Lloyd Macey. “Dw i’n ffan mawr o’r Eurovision Song Contest ac wedi bod yn gwylio ers blynyddoedd.

“Dw i’n edrych ymlaen i gwrdd â’r cystadleuwyr a’u helpu drwy’r broses. Fe wnes i wylio’r gyfres llynedd ac roedd y dalent yn gwbl anhygoel…

“Dw i’n methu aros i’r clyweliadau gychwyn a dw i’n edrych ymlaen i weld pwy fydd yn chwifio baner Cymru ar lwyfan Ewrop.”

Clyweliadau

Bydd y clyweliadau yn cael eu cynnal ledled Cymru rhwng diwedd mis Ebrill a dechrau mis Mai, a hynny yng Nghaerfyrddin (Canolfan S4C yr Egin; Ebrill 24), Aberystwyth (Canolfan y Celfyddydau; Ebrill 24), Llandudno (Venue Cymru; Ebrill 25) a Chaerdydd (Canolfan Mileniwm Cymru; Mai 5).

Mae’r gystadleuaeth ar gyfer pobol ifanc rhwng 9 a 14 oed, ac mae modd iddyn nhw ymgeisio fel unigolion neu grwpiau o hyd at chwech aelod.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10yh ar Ebrill 18.