Mae rhan gyntaf cystadleuaeth Côr Cymru yn cael ei darlledu ar S4C heno (nos Sul, Mawrth 3, 8pm), wrth i’r corau ieuenctid – Côr Aelwyd JMJ, Ysgol Gerdd Ceredigion a Chôr y Cwm – herio’i gilydd am le yn y rownd derfynol.

Bydd y rownd derfynol yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddechrau mis Ebrill.

Mae’r tri chôr ymhlith 14 o gorau ar draws bump o gategorïau sy’n cystadlu i gael eu henwi’n Gôr Cymru 2019 ac am le yn Eurovision Choir of the Year yn Gothenburg yn Sweden ym mis Awst.

Côr Aelwyd JMJ

Rhan yn unig o fywyd Côr Aelwyd JMJ yw cystadlaethau fel Côr Cymru, meddai eu harweinydd Steffan Dafydd wrth golwg360.

“Côr cymdeithasol yw Côr Aelwyd JMJ, felly roedd cyrraedd rownd gyn-derfynol Côr Cymru yn llwyddiant mawr.

“Roedd yn brofiad newydd i nifer fawr o’r aelodau, a’n bwriad oedd mynd a mwynhau, a chynrychioli Prifysgol Bangor ar lwyfan cenedlaethol.

Mae’r côr, sy’n 60 mewn nifer ac sy’n cyfarfod yn Neuadd JMJ bob nos Fawrth, wedi cael tipyn o lwyddiant ar hyd y blynyddoedd o dan arweiniad Steffan Dafydd ac i gyfeiliant Catrin Llewelyn.

Cipion nhw’r wobr gyntaf yng nghystadlaethau’r corau dros 40 a llai na 40 mewn nifer yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd.

Ond mae mwynhad lawn mor bwysig iddyn nhw, meddai Steffan Dafydd.

“Mae’r côr yn rhan fawr o fywyd cymdeithasol myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor, gan ei fod yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd ar ddechrau’r tymor ym mis Medi.

“Mae’n rhoi cyfle i ni gael profiadau newydd tu hwnt i’r darlithoedd.”

Ysgol Gerdd Ceredigion

Cafodd Ysgol Gerdd Ceredigion ei sefydlu yng Nghastellnewydd Emlyn yn 1993 gan Islwyn Evans.

Ers hynny, maen nhw wedi ennill deg gwobr gyntaf yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, ac wedi cipio tlws Côr Cymru ddwywaith.

Mae teithiau tramor a gwaith elusennol lleol hefyd yn rhan bwysig o fywyd y côr sydd yn 34 mewn nifer ac yn ymarfer yng nghartref eu harweinydd bob wythnos.

“Mae wastad yn braf ennill unrhyw gystadleuaeth ond mae’r ffaith bod hon yn cael ei threfnu a’i darlledu gan S4C dros gyfnod o bum wythnos yn rhoi tipyn o kudos iddi yng nghalendr corawl Cymru,” meddai.

Mae’n dweud bod y gystadleuaeth wedi helpu’r côr i godi ei safonau dros y blynyddoedd.

“Mae Côr y Cwm yn gôr talentog iawn ac wedi gosod safon hynod uchel ymhlith corau ieuenctid Cymru.

“Rwy’n edmygu gwaith Elin [Llywelyn-Williams] a Gavin [Ashcroft] yn fawr iawn, ac yn gwybod y byddan nhw’n paratoi yn drylwyr.

“Yn ddios, ers ei sefydlu, mae’r gystadleuaeth hon wedi codi’n gêm ni fel arweinyddion yn ogystal â’r cantorion.”

Côr y Cwm

Cafodd Côr y Cwm ei sefydlu yng Nghwm Rhondda yn 2008 ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Mae gan y côr tua 40 o aelodau o bob rhan o’r cwm, ac maen nhw’n cyfarfod ddwywaith yr wythnos yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn.

Enillodd y côr y wobr gyntaf yng nghystadlaethau’r Corau Plant a Chorau Plant Hŷn yn 2016.

Maen nhw hefyd wedi perfformio ar lwyfan Tonight at the London Palladium ar ITV, ac yn y perfformiad cyntaf o waith Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood, Cantata Memoria yng Nghanolfan y Mileniwm.

Cafodd y gwaith ei recordio ar gyfer label Deutsche Grammophon i nodi hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan yn 2016.

Ymhlith eu hymddangosiadau eraill mae perfformiad yn agoriad swyddogol y Cynulliad.

Daethon nhw i frig y corau ieuenctid yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd eleni.

“Ry’n ni bob tro yn erbyn Ysgol Gerdd Ceredigion yn y gystadleuaeth hon,” meddai Elin Llywelyn-Williams.

“Mae eu safon yn anhygoel o uchel ac mae eu rhaglen bob tro yn amrywiol a heriol.

“Ry’n ni fel côr yn mwynhau’r gystadleuaeth.

“Mae’n braf cael cwrdd â chorau eraill o Gymru.”