Mae cerddoriaeth yn rhoi dau beth i blant ag anghenion nad ydyn nhw’n brofi yn yr un rhan arall o’u bywyd ysgol – cyfle i ddangos sut maen nhw’n teimlo, a chyfle i arwain.

Dyna farn Meilyr Wyn, athro cerddoriaeth yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraerh, lle mae cerddoriaeth yn cael lle blaenllaw.

Eleni, fe gafodd y disgyblion 3-19 oed y cyfle i gydweithio ac ymarfer gyda Dewi Pws ac Elin Fflur wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu sioe Nadolig flynyddol a fydd yn cael ei darlledu nos Fawrth nesaf, Rhagfyr 18.

“Mae cerdd yn chwarae rhan ganolog yn yr ysgol,” meddai Meilyr Wyn. “Dw i wedi cael fy nghyflogi jyst fel athro cerdd ar draws yr ysgol.

“Hwnnw ydi’r unig bwnc lle mae hynny’n digwydd. Mae pob pwnc arall yn cael ei ddysgu gan yr athro dosbarth.”

Cyfle i arwain

“Mae cerdd yn hollbwysig i les emosiynol y disgyblion,” meddai Meilyr Wyn wedyn.

“Mae o fatha gofyn pa mor bwysig ydi canu’r anthem cyn gêm rygbi. Mae’n fwy na hynny hefyd i’n plant ni, achos does gan gyn lleied ohonyn nhw ddim y gallu i gyfathrebu sut maen nhw’n teimlo, na’r cyfle i fod mewn rheolaeth o sefyllfa.

“Efo cerddoriaeth, pan maen nhw’n cael cyfle i arwain gweddill y dosbarth, pan maen nhw’n byrfyfyrio neu efo ryw gyfansoddiad… maen nhw’n cael cyfle i fod yn y canol, a phawb yn eu dilyn nhw.

“Ella bo nhw’n taro’r drwm a phawb arall yn trio copïo yr amseriad neu’r rhythm. Maen nhw’n cael cyfle dydyn nhw ddim yn ei gael yn aml iawn i arwain be’ sy’n mynd ymlaen.”