Mae’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens yn dweud mai “twpdra” yw gwahardd y gân ‘The Fairytale of New York’ ar orsafoedd radio.

Fe fu ffrae newydd ynghylch geiriau’r gân, am eu bod yn cael eu hystyried yn wrth-hoyw. Mae’n ddadl sy’n codi’n flynyddol ers sawl blwyddyn.

Tra bod rhai gorsafoedd radio’n dewis tawelu’r geiriau sarhaus, mae eraill wedi gwahardd y gân yn gyfangwbl.

Cyfiawnhad Shane Macgowan

Yn dilyn yr helynt, mae canwr ‘The Pogues’, Shane Macgowan wedi amddiffyn y gân fel un sy’n adlewyrchiad o’r cyfnod pan gafodd ei chyfansoddi a’i chyhoeddi yn 1988.

“Cafodd ei ddefnyddio gan y cymeriad gan ei fod yn addas ar gyfer y ffordd y byddai hi’n siarad, ac o ran ei chymeriad,” meddai Shane Macgowan mewn datganiad.

“Dydy hi ddim i fod yn berson neis, nac yn berson crwn.

“Dynes yw hi o genhedlaeth benodol ar adeg arbennig mewn hanes, ac mae hi wedi rhedeg allan o lwc ac yn ddespret.

“Mae ei deialog mor gywir ag y gallwn i ei gwneud hi, ond nid ei phwrpas yw bod yn sarhaus.

“Os nad yw pobol yn deall ’mod i’n ceisio portreadu’r cymeriad mor fanwl gywir â phosib, yna mae’n iawn gen i eu bod nhw’n torri’r gair allan, ond dw i ddim am gael ffrae.”

‘Twpdra’

Wrth ymateb i ddatganiad Shane Macgowan, mae Nigel Owens wedi addo gwrando ar y gân bob dydd.

“O ddifri, os na safwn ni i fyny i’r twpdra yma, mae’r gymdeithas wedi torri. Mae’r byd wedi mynd yn wallgo’ am ‘PC’.

“Os ydych chi’n cael eich sarhau mor hawdd gan rywbeth, yna peidiwch â blydi gwrando arni, a’i diffodd hi neu newidiwch y sianel #STOPTHISPCMADNESS.

“Bydda i’n gwrando ar y gân bob dydd nawr.”

Ac mae Nigel Owens yn cynnig ateb i’r helynt.

“Yr ateb syml i’r gwallgofrwydd PC yma yw gadewch i ni’r bobol synhwyrol stopio gwrando ar unrhyw blatfform sy’n sensero’r gân hon. Byddan nhw’n sylweddoli wedyn pa mor blydi twp maen nhw wedi bod.”