Mae’r bleidlais wedi’i hagor ar gyfer y Junior Eurovision gyntaf erioed, wrth i Manw Lili o Rosgadfan obeithio sichrau llwyddiant i Gymru.

Bydd hi’n canu ‘Berta’ gan Yws Gwynedd yn y rownd derfynol, sy’n cael ei chynnal ym Minsk, Belarws.

Bydd modd pleidleisio ar y we ar gyfer hyd at bump o ganeuon, gan gynnwys ymgais Manw, tan ddechrau’r rhaglen fyw brynhawn dydd Sul (4 o’r gloch, Tachwedd 25).

Bydd yr ail rownd, a fydd yn para 15 munud, yn dechrau toc ar ôl y perfformiad olaf.

Bydd y pleidleisiau ar y we yn cyfrif am hanner y cyfanswm o bleidleisiau, a’r hanner arall yn cael eu penderfynu gan reithgorau cenedlaethol o dri o bobol broffesiynol ym maes cerddoriaeth a dau o blant.