Ar ôl rhoi gwên ar wynebau’r beirniaid gyda’i chân gyntaf, ‘Colors of the Wind’ roedd hi’n amser i Manw o Fangor rocio gyda un o ganeuon mwyaf Elin Fflur, ‘Ysbryd Efnisien’, yn ystod ei pherfformiad o flaen gynulleidfa fyw yn Abertawe.

A do, fe lwyddodd y ferch 13 oed o Fangor i wneud hynny.

Ond beth arall fyddech chi’n ddisgwyl gan gantores sydd wedi hen arfer â chamu ar lwyfan ers ei bod yn bedair oed – yn ogystal â rhoi cyngherddau i Mam a Dad yn yr ystafell fyw “gyda meicroffon a bob dim”.

Dw hefyd yn gallu sgïo’n dda iaw,n ac wedi sgïo ers yn blentyn bach,” meddai Manw a fyddai wrth ei bodd yn perfformio deuawd gyda Sia neu gydag Arianna Grande, petai hi’n cael y cyfle.

“Mae Junior Eurovision wedi bod yn brofiad hollol wahanol i mi,” meddai wedyn.

“Fel arfer dw i’n cystadlu mewn eisteddfodau, canu’n glasurol neu sioeau cerdd, ond dw i’n dwlu ar Tara, mae hi’n fentor gwych ac mor ddoniol hefyd.

“Byddai’n brofiad bythgofiadwy i mi ennill y gystadleuaeth yma, ac mi faswn i mor falch i chwifio baner Cymru yn Minsk. Ond mae yna gymaint o dalent yma, dw i ddim yn gwybod sut bydd y cyhoedd yn dewis enillydd!”