Grit a llond sach o enaid sydd gan Misha yn ei chanu, ac mae ganddi ei ffordd unigryw o ddehongli caneuon.

Fe gafodd y tri mentor eu syfrdanu gan ei llais yn ystod ei gwrandawiad cyntaf yn Llandudno wrth iddi ganu ‘Stone Cold’ gan Demi Levato.

Aeth ymlaen i’w synnu ymhellach yn Abertawe ar ôl iddi ganu cân arbennig gan y gantores, Alys Williams.

A dim ond deg oed ydi’r ferch o dref Amlwch ym Môn!

“Mi wes i ddechrau perfformio tua blwyddyn yn ôl oherwydd o’n i eisio dangos i bobol fy mod i’n gallu canu a dw i’n caru canu a gwrando ar ganeuon fel ‘I like it’ gan Cardi B,” meddai.

“Dw i’n perfformio yn yr Eisteddfod ac mewn cyngherddau i blant ag anghenion arbennig sy’n gwneud i mi deimlo’n hapus a balch iawn.”

Yn ei hamser hamdden, mae Misha wrth ei bodd yn chwarae pêl-droed a marchogaeth ceffylau.

“Byddai ennill y gyfres yn werth y byd i mi,” meddai Misha wedyn. “Dw i’n credu bod hi’n bwysig bod pob gwlad yn cael cyfle i gymryd rhan fel cenedl unigol yn yr Eurovision, ac mi faswn i mor falch o gael y cyfle i  gynrychioli Cymru.”