Mae Ella yn dod o’r Rhondda, yn 13 oed, ac yn gallu beltio llais pwerus. Mae’r beirniaid wedi canmol ei ei hyder a’i manylder at berffeithio pob perfformiad hefyd.

Ar ôl iddi ganu ‘This is Me’ o’r Greatest Showman yn ei gwrandawiad cyntaf, roedd y mentoriaid i gyd ar  eu traed cyn iddi hyd yn oed orffen y nodyn olaf.

Yn ystod ei pherfformiad byw yn y Quadrant, Abertawe, roedd hi’n amlwg ei bod hi wrth ei bodd o flaen cynulleidfa fyw wrth iddi stopio siopwyr yn y fan ar lle gyda’r gan ‘Gwranda’ o’r Ffilm Dream Girls.

“Dechreuais i erfformio dair blynedd yn ôl,” meddai. “Fy nghystadleuaeth gyntaf oedd ym mlwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd. Ges i ddigon o hyder i gystadlu, es i mlaen i’r rownd derfynol yn y gystadleuaeth yna.

Siarad Cymraeg yn rhugl 

“Mae [Junior Eurovision] wedi bod yn brofiad anhygoel oherwydd dw i ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl, ond mae cael y cyfle yma i ganu’n Gymraeg a hyd yn oed dysgu Cymraeg wedi rhoi sgil ychwanegol i mi.

“Dw i wedi magu gymaint o hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg dw i hyd yn oed yn mynd i weld fy athrawes Gymraeg yn ystod yr awr ginio yn ysgol i ymarfer a gobeithio un dydd byddai’n siarad Cymraeg yn hollol rhugl.

Byddai ennill y gystadleuaeth hon yn golygu popeth i mi. Dw i mor falch i fod yn Gymraes, byddai cynrychioli’r genedl yn fraint ac yn teimlo felpetai fy mreuddwyd wedi dod yn wir!”