Mae un o ganeuon Alffa, y ddeuawd roc a blws o bentref Llanrug ger Caernarfon, wedi cyrraedd 400,257 gwrandawiad ar wefan Spotify.

Platfform ffrydio cerddoriaeth ar-lein yw Spotify, sy’n dangos bod eu can ‘Gwenwyn’ yn cael ei chwarae ym mhob cwr o’r byd mewn dinasoedd fel Llundain, Sao Paulo, Dinas Mecsico, Istanbwl a Toronto.

Mae hyn yn golygu bod Alffa bellach yn bedwerydd yn siart ffrydio Cymru ar Spotify – tu ôl i ‘Patio Song’ gan Gorky’s Zygotic Mynci (904,322), ‘Fratolish Hiang Perpeshki’ gan Gwenno (433, 916), a ‘Llonydd’ gan Ifan Dafydd ac Alys Williams (398,221).

“Nyts” meddai canwr y band

Mae’r grŵp yn cynnwys Dion Jones ar gitâr a Sion Land ar y drymiau, dau sydd wedi eu dylanwadu’n fawr gan ddeuawdau roc fel The Black Keys a White Stripes.

“Mae o’n nyts, oeddan ni ddim yn disgwyl hynna,” meddai Dion Jones wrth golwg360.

“Wnaethon ni ryddhau’r gân adeg Steddfod. Oeddan ni ddim yn disgwyl hitio mil, a fasa’ ni wedi bod yn hapus efo hynna.

“Aethon ni mewn i un playlist yn Brasil, a mae yna bobol yn Sao Paulo yn gwrando arnon ni, sy’n crazy!”

PYST “fel ffynnon”

Mae llawer o’r sylw wedi bod oherwydd bod y gân wedi cyrraedd rhestrau gwrando poblogaidd Spotify fel ‘Volume Maximo’, ‘Walk Like a Badass’, a ‘The Rock List’ sydd â dros miliwn a hanner o wrandawyr rhyngddyn nhw.

Yn ôl Yws Gwynedd, sy’n rhedeg Recordiau Cosh, label Alffa, mae’n rhaid rhoi llawer o’r clod i PYST – cwmni hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg.

“Fasa fo heb ddigwydd heblaw am PYST, maen nhw ffel ffynnon i gerddoriaeth Gymraeg,” meddai.

“Maen nhw efo cytundeb efo Orchard Music, ac mae’n anodd cael ar eu labeli nhw. Ond mae gan PYST label liaison yn Orchard, ac ar ôl clywed ‘Gwenwyn’ roeddan nhw isio gwybod mwy am y gerddoriaeth a’r geiriau ac yn y blaen.

“Wnaeth hi gyflwyno’r gân i Spotify, a dyma’r gân yn ei gwneud hi ar y rhestrau gwrando. Erbyn rŵan maen nhw’n cael pum mil o wrandawyr y diwrnod – a’r record ydi wyth mil mewn diwrnod.

“Mi fydda’ nhw’n hitio hanner miliwn o wrandawyr mewn pythefnos os ydi’r patrwm yn cario ymlaen.”