Pan gafodd dau frawd bach o ogledd Llandaf gyfarfod â baritôn byd-enwog yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr wythnos hon, roedden nhw’n gwybod eu bod wedi ei weld yn rhywle o’r blaen…

Roedd hynny ar ddechrau eu gwyliau haf, a Gruff a Cai allan gyda’u mam, Bethan, yn archfarchnad Lidl, yr Eglwys Newydd.

Bryd hynny roedden nhw, fel y mae bechgyn direidus weithiau, yn cadw dipyn o swn, a Mam yn trio cael trefn arnyn nhw… pan ddaeth chwiban siarp a bloedd gan ddyn mawr yn dweud “Hei! Fi ydi plismon Lidl!”

Perchennog y chwiban, a’r llais taranllyd, oedd Bryn Terfel.

Dyma nhw yn cyfarfod â’r canwr ym Mhlass Roald Dahl, Bae Caerdydd, a’u taid, Hywel Meredydd Davies, yn cofnodi’r digwyddiad ar ei gyfrif Twitter: