Roedd hwiangerdd Gymraeg ymhlith y caneuon a gafodd eu perfformio ym medydd y Tywysog Louis ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 9).

Mi gafodd trydydd plentyn Dug a Duges Caergrawnt ei fedyddio mewn gwasanaeth preifat yn y Capel Brenhinol ym Mhalas St James yn Llundain.

Côr y Capel Brenhinol a berfformiodd ddwy o brif anthemau’r bedydd, gyda’r hwiangerdd adnabyddus, ‘Suo Gân’ yn un ohonyn nhw.

Roedd yr anthem wedi’i threfnu gan Gareth Wilson, sy’n ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Coleg y Brenin, Caergrawnt.

Yr anthem arall a gafodd ei pherfformio oedd ‘This is the day wich the Lord hath made’ gan John Rutter – darn a gafodd ei gyfansoddi yn arbennig ar gyfer priodais Dug a Duges Caergrawnt yn 2011.